8. 6. Dadl ar y Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2016-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 13 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:13, 13 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gwnaf fy ngorau i ateb cynifer o'r pwyntiau hynny ag y gallaf yn yr amser sydd ar ôl imi. Dechreuodd Mark Isherwood drwy sôn am leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, ac mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau wrth gwrs yn drasig. Ond mae'r niferoedd mor isel nes bod rhaid inni fod yn ofalus iawn wrth ddehongli amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y ffigurau hynny. Rydym ni ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych yn fanwl iawn ar yr ystadegau diweddaraf. Rydym yn credu bod heroin mwy pur, a'r ffaith bod pobl hŷn a allai eisoes fod â rhai cyflyrau yn ei gymryd, yn ffactor yn hyn, a hefyd camddefnyddio amryw o gyffuriau—felly, mae cymryd heroin ochr yn ochr â chyffuriau eraill hefyd yn gwneud pethau'n llawer mwy cymhleth. Rydym yn dal i ariannu'r rhaglen naloxone, sef y cyffur sy'n gwrthdroi effeithiau gorddos o opiad dros dro, ledled Cymru ac yn ein carchardai hefyd. Ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda phob dalfa ac adran damweiniau ac achosion brys i’w gyflwyno hyd yn oed ymhellach, oherwydd mae hon yn fenter sydd wedi cael ei defnyddio gan gannoedd o bobl eisoes ac rwy’n credu ei bod yn achub bywydau.

Rydych yn cyfeirio at bwysigrwydd cyd-gynhyrchu, ac rwy'n cytuno’n llwyr â chi ar hynny. Yn arbennig, a dweud y gwir, mae'n rhaid inni gyd-gynhyrchu gyda’r defnyddwyr gwasanaeth eu hunain. Felly, mae ein fframwaith defnyddwyr gwasanaeth yn mynnu bod byrddau cynllunio ardal yn mynd ati i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth hefyd, oherwydd credwn fod ganddynt y profiad byw a’r arbenigedd i’n helpu ni i ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau llwyddiannus.

Cyfeiriodd Mark Isherwood a Caroline ill dau at broblemau iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd ochr yn ochr â chamddefnyddio sylweddau. Mae ein fframwaith trin camddefnyddio sylweddau, 'Bodloni anghenion Pobl â Phroblemau Camddefnyddio Sylweddau ac Iechyd Meddwl sy'n Cyd-ddigwydd', wedi ei ddiwygio i gynnwys hynny’n union a chynnwys datblygiadau allweddol sydd wedi digwydd ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf—gan sôn am bethau fel defnyddio cyffuriau lluosog a sylweddau seicoweithredol newydd ac yn y blaen hefyd.

Dywedodd Mark Isherwood fod ymyrraeth ac atal yn gwbl allweddol ac mae hynny’n gywir. Mae ein rhaglen gyswllt ysgolion Cymru gyfan yn gweithredu ar draws pob un o'n hysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru ac mae hyn yn rhan hanfodol o'n strategaeth. Rydym yn adolygu cynnwys y rhaglen yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn addas i'r diben ac yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol defnyddio cyffuriau, gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar sylweddau seicoweithredol newydd ac addysgu plant mewn ysgolion am beryglon hynny.

Soniodd Rhun ap Iorwerth a Michelle Brown am isafswm pris uned—neu am alcohol, a soniodd Rhun am isafswm pris uned—fel ffordd o ymdrin â phroblem camddefnyddio alcohol, oherwydd mae tystiolaeth sylweddol bod pris alcohol yn wirioneddol bwysig ac mae ein cynnig i gyflwyno isafswm pris uned am alcohol yn gynnig effaith uchel i ymdrin â'r niwed i iechyd sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol. Byddai'n gosod pris gwaelodol ar gyfer alcohol, gan olygu na ellid ei werthu dan y lefel honno. Rydym yn gwybod y byddai hyn yn ein helpu i ymdrin â’r broblem o gamddefnyddio alcohol yng Nghymru, ond mae problemau yma. Mae cynnig tebyg ar hyn o bryd yn y llysoedd yn yr Alban, felly rydym yn gwylio hwnnw’n agos iawn i ddeall pa bwerau allai fod gennym yma.

Y pryder pellach a amlinellodd Rhun yw bod y Bil Cymru drafft hefyd yn cynnwys, fel pŵer a gadwyd yn ôl, werthu a chyflenwi alcohol, a fyddai'n rhwystr mawr inni i gyflawni ein huchelgais. Felly, rydym yn edrych ar yr amserlenni dan sylw i weld beth allai fod yn bosibl o ran ein Bil iechyd cyhoeddus a'r Bil Cymru yno. Ond rwy’n rhannu eich pryderon. Roeddech yn sôn am bwerau’n ehangach, felly byddai hynny'n cynnwys trwyddedu alcohol. Nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid—dylai trwyddedu a gwerthu a chyflenwi alcohol a darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr yn y nos fod yn fater a gedwir i Lywodraeth y DU. Rydym yn credu ac wedi argymell yn gryf y dylai Deddf Trwyddedu 2003 ystyried iechyd y cyhoedd. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau trwyddedu alcohol i'r Cynulliad.

Soniodd Caroline am bobl hŷn. Mae ein strategaeth camddefnyddio sylweddau yn cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ymhlith pobl hŷn, gan gynnwys y rhai sy'n ymdrin â materion alcohol. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau penodol i ymarferwyr i wella eu dulliau o ganfod gwasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau i bobl hŷn a defnyddio’r gwasanaethau hyn. Rydym hefyd wedi cynnwys alcohol yn y profion iechyd ar-lein sydd gennym i bobl dros 50 oed. Rwyf wedi gofyn i'r panel ymgynghorol ar gamddefnyddio sylweddau edrych ar faterion camddefnyddio sylweddau ymysg poblogaeth sy'n heneiddio hefyd. Bydd y gwaith hwnnw'n dod ag arbenigwyr ym maes camddefnyddio sylweddau ynghyd ag arbenigwyr ar bobl hŷn, a cheir adroddiad ar hyn yn y dyfodol agos.

Soniasoch hefyd am feddyginiaethau presgripsiwn a thros y cownter a sut y cânt eu camddefnyddio’n aml. Rydym wedi datblygu pecyn e-ddysgu ar gyfer staff fferyllfeydd i'w helpu i nodi a chynnig ymyriadau byr i bobl sy'n camddefnyddio meddyginiaethau presgripsiwn a thros y cownter. Mae data presgripsiynau ar gael fel mater o drefn i fyrddau iechyd lleol a meddygon teulu yng Nghymru, gan ganiatáu inni fonitro arferion rhoi presgripsiynau. Felly, mae hyn yn cynorthwyo byrddau iechyd lleol i nodi amrywiadau a newidiadau i arferion ac mae hynny’n helpu i dargedu cymorth i wella diogelwch ac effeithlonrwydd rhoi presgripsiynau hefyd.

Roedd y ddadl yn cyfeirio at sylweddau seicoweithredol newydd, ac, wrth gwrs, daeth Deddf Llywodraeth y DU, yr ydym yn gefnogol yn fras iddi, i rym ar 26 Mai eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal amrywiaeth o fentrau codi ymwybyddiaeth drwy ein gwasanaeth DAN 24/7. Rydym hefyd wedi creu deunyddiau cymorth i rieni a gofalwyr ynglŷn â sylweddau seicoweithredol newydd ac wedi ystyried pob un o'r argymhellion a wnaethpwyd yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â hyn. Mae hynny’n sicr wedi'i ymgorffori yn ein cynllun. Roedd yn sicr yn sail i'n meddyliau ar hynny. Ar ôl adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae rhaglen hyfforddi genedlaethol hefyd wedi cael ei datblygu a'i darparu ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru. Rwyf hefyd yn ystyried modiwlau e-ddysgu ar sylweddau seicoweithredol newydd a chyffuriau eraill fel y gall atal camddefnyddio sylweddau ac ymateb i hynny gael eu hintegreiddio’n fwy ym mhrif ffrwd ein darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

Yn olaf ar hyn, rydym yn gwybod bod gweithlu rheng flaen â’r sgiliau a’r wybodaeth addas yn allweddol er mwyn gwella addysg ac atal risgiau sy'n gysylltiedig â sylweddau seicoweithredol newydd. Felly, mae cynllun bwrsariaeth hefyd ar gael drwy Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r gweithlu ymhellach.

Felly, i gloi, rwy’n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ymuno â mi i ddiolch i bob un o'n rhanddeiliaid ymroddedig sydd wedi gweithio gyda ni ar yr agenda hon. Mae'n agenda heriol, ac mae eu gwaith caled nhw, eu hymroddiad a’u tosturi yn hanfodol wrth inni geisio ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ledled Cymru. Diolch.