Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch. Lansiwyd gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr eleni i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n darparu budd lleol. Mae ein cefnogaeth barhaus ers 2010 wedi helpu cymunedau i gyflawni wyth cynllun sydd wedi eu cwblhau. Mae wyth arall yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gyda naw arall i’w hadeiladu erbyn diwedd 2017.