<p>Rhaglen Ynni Lleol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:36, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, mae fy swyddogion yn monitro effaith polisi ynni Llywodraeth y DU yn gyson er mwyn sicrhau y bydd y sector yn gallu parhau i gyflawni dros Gymru. Rwy’n credu bod diffyg cynnydd wedi bod oherwydd y newid yn y cymorth a welsom gan Lywodraeth y DU. Rydym yn edrych ar fodelau a all gynnal parhâd datblygiad ynni adnewyddadwy. Felly, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r treial Ynni Lleol ym Methesda, ar gynhyrchiant lleol a defnydd o’r ynni hwnnw yn y gymuned, i ddarganfod a all y model helpu prosiectau i weithio, heb orfod dibynnu wedyn ar gymorthdaliadau fel tariffau cyflenwi trydan. Rydym hefyd yn ystyried ffurf cymorth y tu hwnt i’r gwasanaeth Ynni Lleol cyfredol sydd gennym, sy’n mynd â ni hyd at fis Rhagfyr 2017. Yn amlwg, bydd angen i ba gymorth bynnag a gyflwynir gennym adlewyrchu’r newid rydym yn ei weld yn y sector ynni.