Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Medi 2016.
Gallaf. Roeddwn yn y pwyllgor y bore yma, a bydd Simon wedi fy nghlywed yn dweud hyn, ond roeddwn yn Morrisons yn Wrecsam ddydd Sadwrn, ac fel y gwyddoch, ymwelais â Puffin Produce ym Mhenfro dros yr haf, lle mae ganddynt ddeunydd pacio sy’n hawdd iawn i’w adnabod. Felly, prynais gennin a thatws newydd, yn ogystal â blodfresych—dyna dri. Prynais gig oen Cymru. Rwy’n ceisio cofio’r pumed yn gyflym—ychydig o gregyn bylchog efallai. [Chwerthin.]