<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:45, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae siarad yn un peth a gweithredu’n beth arall. Rydym wedi gweld llawer o siarad a dim gweithredu. Mewn gwirionedd, mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth, yn anffodus, na’r hyn a nododd Paul Davies oherwydd heddiw cyhoeddwyd y ffigurau ar gyfer y mis nesaf ar ôl mis Mai ac maent yn waeth hyd yn oed. Yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2016, cafodd 9,476 o wartheg eu lladd yng Nghymru—cynnydd o 43 y cant ers yr un cyfnod yn y 12 mis hyd at y llynedd. Felly, pa gamau pendant fydd yn cael eu rhoi ar waith yn y maes hwn? Mae pob un o’r achosion hyn yn drasiedi i’r ffermwyr dan sylw ac yn wir, wrth gwrs, i’r anifeiliaid sy’n cael eu lladd. Felly, rwy’n credu bod hwn yn fater sydd, yn rhy aml, yn cael ei esgeuluso neu ei anghofio’n wir gan bobl yn y Blaid Lafur. Am nad yw ffermwyr yn gyffredinol yn pleidleisio dros Lafur, nid oes ganddynt unrhyw ddiddordeb ynddynt o gwbl.