Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 14 Medi 2016.
Ar 740 o achosion newydd mewn buchesi, o ran niferoedd, mae’n 740 set newydd o drasiedi ac nid wyf yn ystyried hynny’n dderbyniol mewn unrhyw fodd. O ran y trafodaethau sy’n digwydd ar hyn o bryd mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall y gallai hyn fod yn gwbl angheuol yn y trafodaethau hyn i fuddiannau ffermwyr Cymru? Oherwydd rydym i gyd yn cofio beth ddigwyddodd gyda BSE, ac ymhell ar ôl i BSE beidio â bod yn broblem hyd yn oed, nid oedd y Ffrancwyr yn caniatáu i gig eidion Prydain fynd i Ffrainc a gallaf yn hawdd weld, yn ystod y trafodaethau hyn, sut y gallai’r sefyllfa mewn perthynas â TB mewn gwartheg yng Nghymru yn arbennig fod yn rwystr mawr i allu Llywodraeth Prydain i drafod mynediad di-dariff i gynnyrch ffermio o Gymru.