<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:47, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ymwybodol iawn, wrth gwrs, fod Ysgrifennydd y Cabinet ar ochr aflwyddiannus y ddadl â phobl Cymru ar ba un a oedd yn beth da i Gymru aros yn yr UE. Roedd yn drawiadol fod y niferoedd mwyaf o bleidleisiau o blaid gadael yr UE mewn seddi y mae Llafur wedi eu hystyried yn draddodiadol yn seddi cryfaf eu cadarnleoedd, sy’n dangos cyn lleied o gysylltiad sydd gan y Blaid Lafur fodern â’u cefnogwyr traddodiadol eu hunain.

Ond ar fater arall sydd hefyd o ddiddordeb mawr i ffermwyr Cymru, y parthau perygl nitradau: dywedwyd wrthym y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa bryd y bydd yn dechrau, os yw’n mynd i ddechrau o gwbl? A yw hi’n deall y gallai hyn hefyd olygu cynnydd enfawr yn y costau i ffermwyr ar adeg pan fo incymau ffermio wedi bod yn plymio?