Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch. Mae llawer o bobl yn aros am y penderfyniad yma ar ddwy ochr y ddadl, fel petai. A gaf i ei roi ar gofnod fy mod i wedi cwrdd â deisebwyr, er bod ambell un yn meddwl nad ydw i, ond nid ydych chi, fel Gweinidog, wedi eu cwrdd â nhw? Rwy’n meddwl bod hynny’n wir. A ydych yn barod nawr, gan fod yr ymgynghoriad drosodd, i gwrdd â deisebwyr sydd am wahardd pysgota am gregyn bylchog ym mae Ceredigion i weld beth yw eu dadleuon nhw? A ydych yn meddwl bod y broblem sydd gennym ni yn fan hyn o ateb cwestiynau dyrys yn fan hyn yn deillio o’r ffaith nad oes gan y Llywodraeth eto gynllun morol cenedlaethol, ac felly nid oes gennym yr arfau eto i fynd i’r afael â’r problemau sy’n codi pan fydd pobl yn anghytuno ar y ffordd orau o gynnal cynefin a physgota hefyd?