Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 14 Medi 2016.
Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ein galluogi i reoli adnoddau Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae ein targedau statudol ar newid hinsawdd a chyllidebu carbon yn helpu i ddarparu sicrwydd ac eglurder ar gyfer buddsoddi a busnes. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi i ni un o’r fframweithiau statudol mwyaf blaengar a chynhwysfawr yn y byd.