Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Medi 2016.
Nid wyf wedi gwneud unrhyw waith penodol gyda’r sector addysg bellach. Rwy’n ymwybodol fod yr enghraifft a roddais i chi yn sôn am y sector addysg uwch, ac rydym yn gwneud cryn dipyn mewn nifer o brifysgolion. Ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn ysgrifennu at yr Aelod.