Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Medi 2016.
Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried y goblygiadau gyda rhanddeiliaid. Mae 95 y cant o fwyd a diod Cymru yn cael ei werthu yn y wlad hon, ac mae 5 y cant yn cael ei allforio. Mae 90 y cant o’r 5 y cant hwn yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n bwriadu diogelu a thyfu’r fasnach hon drwy gynnal mynediad i’r farchnad sengl a thrwy gymorth Llywodraeth Cymru.