Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Medi 2016.
A allwch chi ddweud wrthyf pa waith sy’n mynd rhagddo i sicrhau bod cwm Afan yn elwa ar y cynllun adfywio yma? Fe dderbyniais i lythyr gan gyngor Castell Nedd Port Talbot dros yr haf yn cadarnhau ei fwriad i leoli gwaith datblygu ar hyd coridor arfordirol yr ardal honno, gan gynnwys cwm Nedd uchaf a chwm Tawe uchaf yn ardaloedd o dwf strategol. Ond, beth rwy’n ei ddarganfod trwy gnocio drysau yn ardal Afan, yn y cymoedd, yw eu bod nhw’n teimlo bod pethau’n mynd oddi ar yr ardal honno a bod adnoddau’n cael eu tynnu o’r ardal, ac felly nid ydyn nhw’n cael yr un yr un flaenoriaeth â’r ardal arfordirol. A fedrwch chi ddweud wrthym ni a oes yna gynlluniau i gynnwys yr ardal yma yn benodol yn rhan o’r strategaeth?