Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch. Fe fyddwch yn gwybod, ochr yn ochr â hynny, fod dwy gyllideb gydberthynol arall, yn arbennig y gyllideb atal digartrefedd, a welodd doriad o 8 y cant yn y flwyddyn gyfredol. Mae cynghrair o ddarparwyr—Shelter Cymru, Llamau, GISDA, Digartref Ynys Môn a Dewis—wedi gwneud y pwynt fod lleihau’r gyllideb sy’n cefnogi gwasanaethau ataliol allweddol, sy’n ganolog i ganlyniadau a llwyddiant gwasanaethau a darpariaeth a gefnogir gan y cyllidebau eraill, fod torri’r gyllideb hon yn hunandrechol. Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn y grant atal digartrefedd, gan ddweud ei fod wedi rhoi platfform i ffynonellau eraill o arian gael eu defnyddio ar gyfer gwaith atal, ei fod yn arbed arian a bod gweithio gyda Cefnogi Pobl yn sicrhau bod cymaint o bobl ag y bo modd yn cael cefnogaeth gynnar. Sut rydych yn ymateb i’r alwad honno ochr yn ochr â Cefnogi Pobl?