Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am ddod yn syth at y cwestiynau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi a diogelu merched sydd mewn perygl yn sgil anffurfio organau cenedlu menywod a pha adnoddau a ddarparwyd i’r GIG, y gwasanaethau cymdeithasol a’r ysgolion i gefnogi’r mesurau hynny?