Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Medi 2016.
Nid oes gennyf unrhyw ffigurau ar gyfer yr Aelod heddiw, ond fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda manylion pellach. Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn yn faes cymhleth iawn o ran yr hyn y credir ei fod yn dderbyniol yn gymdeithasol yn rhai o’r cylchoedd hyn. Mae’n amlwg nad yw’n dderbyniol. Nid ydym yn credu hynny. Ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau trydydd sector—mae’n ddrwg gennyf, y sector cyhoeddus, fel y GIG, a’r heddlu hefyd mewn perthynas ag euogfarnau yn erbyn unigolion sy’n gwneud hyn.