Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 14 Medi 2016.
Mae gennym fforwm ffydd, fforwm rwy’n gadeirydd arno, ochr yn ochr â’r Prif Weinidog. Rydym yn gweithio ar y gallu i helpu diwylliannau i newid o’r tu mewn, yn hytrach na dweud wrthynt beth y dylai pobl fod yn ei wneud. Mae’n rhaid i ni weithio gyda sefydliadau cydymdeimladol sy’n gallu gweithio a gweithredu o fewn y diwylliant neu’r ffydd. Rydym yn cael peth llwyddiant ond mae llawer iawn mwy o waith i’w wneud yn y maes hwn.