Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 14 Medi 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, y tro diwethaf y cawsom y cwestiynau hyn oedd cyn refferendwm yr UE, a gwnaeth nifer o Aelodau sylwadau ar faint o gynlluniau gwrthdlodi sy’n cael eu hariannu gan yr UE. Felly, gwyddom bellach, wrth gwrs, fod y rhai a fu’n ymgyrchu i adael yr UE, gan gynnwys rhai o aelodau’r Blaid Lafur, fel Gisela Stuart, wedi addo y bydd pob ceiniog sy’n cael ei derbyn oddi wrth yr UE yn cael ei chadw. Ond pa gynlluniau wrth gefn rydych wedi eu gwneud, gyda’ch swyddogion, os na chaiff rhai o’r cynlluniau gwrthdlodi hyn eu diogelu?