Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda phwyllgor neuadd bentref Rhaglan yn fy etholaeth, sy’n gweithio’n galed i ddatblygu canolfan gymunedol ynghanol etholaeth Mynwy. Mae’r Loteri Fawr wedi darparu cyllid i ddatblygu cynlluniau. A allwch ddweud wrthyf sut y mae rhaglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau megis y Loteri Fawr i ddatblygu canolfannau cymunedol ledled Cymru?