<p>Ymosodiadau Corfforol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:37, 14 Medi 2016

Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Rwy’n falch clywed bod cynnydd wedi bod ers inni ei holi ddiwethaf, cyn yr haf, ynglŷn â’r mater yma, ac yn benodol ei fod wedi cyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru. Rwy’n siŵr ei fod wedi cael cefnogaeth lawn y comisiynydd tuag at yr amcan yna. A fyddai’n haws, efallai, i esbonio sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu dod â rhyw fath o ddarpariaeth drwy’r Cynulliad hwn, yn enwedig o gofio bod angen rhoi cyfle i Aelodau o bob plaid gefnogi, gobeithio, ac i ennill cefnogaeth ehangach i sicrhau bod amddiffyniad cyfartal yma i bobl ifanc a phlant?