<p>Hawliau Pobl Ifanc</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:48, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater hwn ac mae’n peri pryder i minnau hefyd. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar oblygiadau’r adroddiad hwnnw a faint yn fwy y gallwn ei wneud, nid yn unig gyda’r adran hon, ond hefyd drwy gymorth addysgol mewn ysgolion ac mewn sefydliadau trydydd sector o ran sut yr ydym yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn gwrando ar eu barn. Yn aml, mae’r genhedlaeth hŷn yn gwneud pethau ar gyfer plant am eu bod yn meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud, yn hytrach na gwrando ar ba gamau gweithredu y dylid eu cymryd. Rydym wedi cyrraedd y cam hwnnw yn awr o ymgysylltu â phobl ifanc a gwrando ar beth sydd yn cael effaith ar eu bywydau.