Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 14 Medi 2016.
Mae un o fy etholwyr wedi tynnu fy sylw at y ffaith ei bod yn gorfod talu £8 yr wythnos i’w phlentyn hynaf ymgartrefu yn ei thymor cyntaf yn yr ysgol uwchradd, sy’n llai na 3 milltir i ffwrdd ond yn fwy na 2 filltir i ffwrdd. Rwy’n deall ei phryderon yn ystod y cyfnod anodd hwn ym mywyd y plentyn, ond dyma fenyw sydd ar fudd-dal tai a chymhorthdal incwm, ac mae £8 yr wythnos yn rhan fawr iawn o’r arian sydd ei angen arni i’w wario ar weddill ei theulu. Os ydym yn cymharu hynny â’r rhieni braidd yn ddi-hid hynny sy’n parhau i fynd â’u plant at gatiau’r ysgol yn eu ceir, heb ystyried y canlyniadau amgylcheddol, gallwch weld y gwahaniaethau yn ymagwedd plant tuag at addysg uwchradd.
Nawr, mae pum gofyniad yn adroddiad Rowntree mewn perthynas â thlodi plant, gan gynnwys cynorthwyo pobl i fod yn rhieni da, cymorth gydag iechyd meddwl rhieni a phlant, a mynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel. Beth arall y credwch y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r achosion endemig hyn o dlodi plant parhaus?