<p>Diwygiadau Lles</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:01, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn cyflwyno argymhellion eu hadroddiad ‘Dynamic Benefits: Towards welfare that works’, mae’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol wedi nodi bod mwy o bobl mewn cyflogaeth nag erioed o’r blaen, fod llai o bobl yn hawlio budd-daliadau a bod diweithdra yn y DU ar ei lefel isaf erioed o 4.9 y cant. Wrth gwrs, gwyddom fod gan Gymru hanes da o ran hynny. Fodd bynnag, mae’r gyfradd o anweithgarwch economaidd ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru nad ydynt mewn cyflogaeth yn dal i fod bron 3 y cant yn uwch nag ar gyfer y DU. Pa ystyriaeth, felly, y byddwch yn ei rhoi i wneud pethau’n wahanol ac i ystyried beth allai fod yn gweithio mewn mannau eraill—yn yr Alban, yn Lloegr neu tu hwnt—er mwyn cau’r bwlch hwnnw?