6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gweithlu’r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:11, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Peth ohono, mae’n wir, ac wrth i chi wrando ar weddill y ddadl, rwy’n meddwl efallai y cewch eich calonogi rywfaint. Rwy’n derbyn bod nifer y meddygon teulu yn parhau i fod yn weddol sefydlog. Fodd bynnag, nid oes llawer o gydnabyddiaeth i’r ffaith nad yw llawer ohonynt yn gweithio amser llawn. Nid yn unig mae rôl y meddyg teulu wedi newid, ond mae’r ffordd y mae cleifion yn dymuno cael mynediad at eu meddyg teulu wedi newid hefyd. Mae cleifion yn dal yn awyddus i weld meddyg teulu penodol, a gallu eu gweld o fewn cyfnod byr o amser. I ddyfynnu un meddyg, sy’n crynhoi barn llawer o bobl yn daclus: ‘Mae cleifion eisiau ymateb ar unwaith, ond ymateb ar unwaith gan feddyg o’u dewis ar adeg o’u dewis, a dyna yw’r safon aur. Byddem oll yn hoffi hynny, ond nid yw’n ymddangos bod llawer o ddealltwriaeth ymhlith cleifion nad yw hynny’n bosibl mewn gwirionedd.’

Mae yna gydnabyddiaeth hefyd fod lefelau hunanofal wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid yw cleifion bellach yn ystyried y meddyg teulu fel cam olaf pan fyddant yn dangos arwyddion o salwch, ond y cam cyntaf. Hefyd, er bod amseroedd apwyntiadau wedi bod yn cynyddu, dengys ffigurau mai’r DU sydd ag un o’r amseroedd apwyntiad byrraf, a dywedodd cyfanswm o 73 y cant o’r holl feddygon teulu yn y DU eu bod yn anfodlon gyda’r amser y gallent ei dreulio gyda phob claf. Mae arolwg BMA Cymru yn ddiweddar, ym mis Chwefror eleni, yn dangos yn glir bod 57 y cant o bractisau meddygon teulu wedi adrodd bod ansawdd y gwasanaeth wedi gostwng yn ystod y 12 mis diwethaf; a dywedodd 64 y cant nad oeddent yn gallu ymdopi â’u llwyth gwaith naill ai lawer o’r amser neu drwy’r amser. Gellid ymdrin â llawer o’r materion hyn drwy gynllunio’r gweithlu’n well, drwy fwy o addysg a chyfeirio. Mae gwir angen i ni ddeall y darlun sydd gennym. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i adolygu’r broses o gasglu a rhannu data o fewn y sector gofal sylfaenol, er mwyn i ni ffurfio darlun clir a rhannu’r sylfaen wybodaeth â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau?

Nodais yn eich dogfen, ‘Gweithlu Gofal Sylfaenol wedi’i Gynllunio i Gymru’ fod yna ddymuniad i annog clystyrau gofal sylfaenol i asesu angen lleol a chael adnoddau i gyd-fynd â hynny. Fodd bynnag, mae angen i gynlluniau cynhwysfawr ar gyfer y gweithlu ystyried argaeledd ac anghenion hyfforddi ar gyfer gweddill y gweithlu gofal sylfaenol, megis ffisiotherapyddion, nyrsys, optometryddion, fferyllwyr, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, gweithwyr cymorth gofal iechyd a seicolegwyr clinigol. Rydym eisoes yn gwybod o ymchwiliadau pwyllgorau, fel y rhai ar blant sy’n derbyn gofal, mabwysiadu a gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, ein bod yn wynebu prinder drwy Gymru gyfan o therapyddion lleferydd ac iaith, clinigau anhwylder bwyta, gweithwyr cymorth ymddygiadol a gofal cymdeithasol, a bod mynediad amserol at wasanaethau iechyd meddwl yn anodd iawn i’w gael.

Mae’r meddyg teulu heddiw yn llai o feddyg cyffredinol ac yn fwy o ymarferydd gofal cymhleth. Mae disgwyl iddynt fod ar y rheng flaen mewn perthynas ag ystod hynod o amrywiol o afiechydon. Maent yn cael eu hannog i reoli cymaint ag y gallant er mwyn tynnu’r pwysau oddi ar y sector gofal eilaidd. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r amcan hwnnw, rhaid iddynt wybod i sicrwydd fod yna lu o weithwyr proffesiynol hyfforddedig y gallant atgyfeirio cleifion atynt. Yn anffodus, nid yw hynny’n wir, a dyna pam, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwn yn gofyn am gynllun cynhwysfawr ar gyfer y gweithlu ym mhob rhan o’r sector sylfaenol, a’i fod yn edrych ar oriau yn hytrach na phennau, ac anghenion y dyfodol a gofynion hyfforddi yn hytrach na’r status quo.

Mae hyfforddiant ac annog pobl i weithio mewn gofal sylfaenol yn gwbl allweddol er mwyn cryfhau a chynllunio ar gyfer rheoli’r gweithlu yn y gwasanaethau rheng flaen. Mae’r BMA wedi tynnu sylw at y ffaith fod nifer y lleoedd hyfforddi cyffredinol ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru, er gwaethaf ymrwymiadau gan Lywodraethau Cymru olynol dan arweiniad Llafur, yn parhau’n ddisymud. Maent hefyd yn dweud bod angen buddsoddi nid yn unig mewn hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig o ansawdd uchel yng Nghymru, ond mewn datblygiad proffesiynol parhaus hefyd. Mae angen i ni edrych am weithlu meddygol cenedlaethol. Mae angen i ni greu gorfodaeth i hyfforddiant meddygon iau yng Nghymru gynnwys cylchdroadau meddygon teulu fel rhan o’u hyfforddiant. Mae meddygon teulu lleol wedi ategu’r neges hon ac maent hefyd yn mynegi pryderon ynglŷn â dealltwriaeth ysgolion meddygol mewn gwirionedd o bwysigrwydd cylchdroadau fel ffordd o sicrhau nad yw ymarfer cyffredinol yn cael ei weld fel yr adran sinderela yn y proffesiwn meddygol. Ychwanegwch at hyn y farn nad yw hyfforddeion yn ystyried bod dod yn feddyg teulu yn yrfa ddymunol oherwydd costau indemniadau cysylltiedig, adeiladau sy’n heneiddio, wyddoch chi, mwy o bwysau gwaith—nid yw pobl eisiau gweithio mewn rhan angenrheidiol iawn a gwerthfawr iawn o weithlu’r GIG.

Yn olaf, hoffwn droi’n gyflym at welliant Plaid Cymru, y byddwn yn ymatal arno. Nawr, rwy’n derbyn yn llwyr fod yna dystiolaeth empirig sy’n awgrymu’n glir fod myfyrwyr meddygol yn aml yn aros yn yr ardal lle cânt eu hyfforddi, ac rwy’n cydnabod bod y gwelliant hwn yn adlewyrchu’r galw gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Fodd bynnag, ceir y fath brinder o feddygon fel y byddwn yn awgrymu os oes Albanwr, Eidalwr neu rywun sy’n byw yng Nghymru yn hyfforddi yn ein hysgolion meddygol, yna dylem eu croesawu gyda breichiau agored a cheisio’u cadw yn y wlad lle cawsant eu hyfforddi. Hoffwn ddeall yn well hefyd faint o fyfyrwyr o Gymru y gwrthodir hyfforddiant iddynt neu sy’n dewis cael hyfforddiant i ffwrdd o gartref am na allant gael lle yn lleol. Felly byddwn yn ymatal, oherwydd gallaf gael fy mherswadio os gallwch ddangos y dystiolaeth i ni. Credaf mai dadl gryfach, y bydd fy nghyd-Aelod yn ei datblygu, yw y dylem gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael ac ehangu’r ymchwil ddaearyddol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n argyfwng ar ymarfer cyffredinol. Felly, i grynhoi, byddem yn hoffi gweld rhaglen recriwtio sy’n crynhoi anghenion partneriaid a theuluoedd, cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer y gweithlu sy’n cynnwys holl haenau gofal iechyd sylfaenol er mwyn sicrhau bod ymarfer cyffredinol yn gallu atgyfeirio cleifion ym mhob man mewn modd amserol, fod yna newidiadau yn cael eu gwneud i hyfforddiant meddygon iau er mwyn sicrhau bod cylchdroadau’n cynnwys ymarfer cyffredinol fel mater o drefn a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cylchdroadau hyfforddiant ym maes cardioleg neu feddygaeth acíwt, fod adolygiad yn cael ei gynnal i’r pwysau ariannol mewn ymarfer cyffredinol, o wariant cyfalaf i yswiriant indemniad, fod pecyn cynhwysfawr yn cael ei lunio gyda byrddau iechyd a’r ymddiriedolaeth ambiwlans i wella dealltwriaeth o achosion y lefelau uchel o salwch sy’n gysylltiedig â straen y mae’r gwasanaethau yn eu hwynebu a bod rhaglen hygyrch o ymyrraeth i unigolion wneud defnydd ohoni yn cael ei rhoi ar waith, a bod llais ymarfer cyffredinol yn cael ei gryfhau a’i roi ar y blaen ac yn y canol yng nghynlluniau’r byrddau iechyd a’r Llywodraeth. Os gallwch gyflawni hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn atal y storm sy’n hel yn y gwasanaethau rheng flaen, a byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn eich cefnogi yn yr ymdrech hon. Diolch.