Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 14 Medi 2016.
Mae capasiti rheng flaen yn y GIG ar fin troi o fod yn wendid i fod yn fygythiad i gynaliadwyedd y gwasanaeth fel y mae wedi ei fodelu heddiw. Efallai fod y bygythiad hwnnw yn amlygu ei hun ar draws y DU i raddau amrywiol, ond yma yng Nghymru y mae bwysicaf bellach. Ni chyflwynwyd y ddadl hon er mwyn lladd ar Lywodraeth Cymru, er ein bod yn gofyn i chi fod yn onest yn y fan hon. Nid yw pryderon y Cynulliad ynglŷn â chynllunio’r gweithlu, y ddeoniaeth a’r agwedd ddiog tuag at sganio’r gorwel am fylchau yn y ddarpariaeth glinigol yn newydd. Felly, rydym yn eich dwyn i gyfrif am eich amharodrwydd i newid cyfeiriad pan nad yw dulliau blaenorol o fynd i’r afael â hyn wedi gweithio ac rydym yn eich dwyn i gyfrif am fod toriadau digynsail i’r gyllideb iechyd yn ystod y Cynulliad diwethaf wedi gwneud y GIG yng Nghymru yn llai deniadol i weithio ynddo.
Er fy mod yn siŵr y byddwch eisiau tynnu’r sylw oddi ar hynny yn eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, nid ydym yn poeni cymaint â hynny am eich barn am y GIG yn Lloegr; rydym yn poeni llawer iawn am eich cynlluniau ar gyfer y GIG yng Nghymru. Felly, cyflwynwyd y ddadl hon yn bennaf gyda bwriad diniwed, sef eich helpu i gael gwared ar yr heriau, syniadau newydd gan bob un o’r pleidiau—rydych wedi clywed gennym ni a chan Blaid Cymru—a’r camau â blaenoriaeth y byddem yn falch o’ch cefnogi arnynt. Gadewch i’r Cynulliad hwn eich helpu. Byddwch yn ymwybodol na allwn, fel cynrychiolwyr pobl Cymru, dderbyn yr un hen strategaethau a gyflwynir gennych yn y gobaith y bydd y broblem hon yn diflannu ohoni ei hun.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn i chi am strategaeth gynhwysfawr. Mae hynny’n golygu bod rhaid iddi gynnwys, neu o leiaf gael ei llunio ar y cyd â strategaeth i leihau’r galw ar y GIG yn y lle cyntaf. Mae hynny’n golygu galluogi, annog ac efallai mynnu hyd yn oed, mewn rhai achosion, ein bod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ein hiechyd ein hunain. Felly, ni ddylech ddiystyru syniadau megis codi tâl am apwyntiadau a gollir neu hysbysu cleifion am gost eu cyffuriau presgripsiwn am mai’r Ceidwadwyr Cymreig a gynigiodd y syniadau hynny. Ar bob cyfrif, ystyriwch amrywiadau ar y rhai sy’n ymddangos yn fwy atyniadol i chi. Peidiwch â gwrthod yr asesiadau gwirfoddol yn y cartref a’r wardeniaid yn y cartref yn syml am mai ymrwymiadau’r Ceidwadwyr Cymreig ydynt. Yn y bôn, mae’r rhain yn gynigion cadarn ar gyfer helpu pobl â chyflyrau dirywiol, sy’n gysylltiedig ag oedran neu fel arall, i reoli eu bywydau eu hunain heb orfod troi’n gynamserol at y proffesiwn meddygol.
A pheidiwch â bod ofn tynnu bathodyn Llywodraeth Cymru oddi ar negeseuon iechyd cyhoeddus. Nid wyf yn mynd i roi’r gorau i brynu toesenni am fod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf—mewn ymgyrchoedd hysbysebu achlysurol—eu bod yn ddrwg i mi, ond efallai y gwnaf pe na baent yn cael eu defnyddio fel nwyddau ar golled mewn archfarchnadoedd neu os gwelaf rybuddion siwgr a braster arnynt dro ar ôl tro neu luniau o galonnau wedi blocio ar y bocs. Gludwch arwydd ar y lifft i ddweud y gallech fod wedi defnyddio 20 o galorïau drwy ddefnyddio’r grisiau, ond peidiwch â glynu logo Llywodraeth Cymru arno. Gydag iechyd y cyhoedd, deddfwch neu sicrhewch fod eraill yn tanio eich bwledi strategol ar eich rhan.
Eich asedau allweddol wrth leihau’r galw ar y GIG yw gwerth a grym gwasanaethau eraill. Crybwyllodd Angela rai, ond rwy’n cynnwys gwasanaethau cymdeithasol yma, cyrff megis cymdeithasau tai, y trydydd sector wrth gwrs, neu gymdeithas ei hun. Dylai ein pobl ifanc dyfu i fyny yn gweld cyfrifoldeb dros eraill fel rhan naturiol o fywyd, hyd yn oed os nad yw’n ddim mwy na deall eich bod yn cael cefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol drwy fod yn aelod o ryw fath o gymuned. Felly gellid cefnogi llawer o’n hiechyd da o’r tu allan i’r GIG drwy wthio ein diwylliant i ffwrdd o’r meddylfryd ‘pilsen at bob dolur’, yn union fel y dywedodd Angela. Gall parhad da mewn gofal cymdeithasol, er enghraifft, lle mae barn yr unigolyn yn gwbl berthnasol i’r math o ofal, helpu pobl hŷn drwy gynnal eu hyder yn y cartref os yw pob pwynt cyswllt, o fewn neu y tu allan i’r GIG, wedi atgyfnerthu’r wybodaeth, dyweder, ynghylch atal cwympiadau, pa help y gallech ei gael mewn fferyllfa, a sut y mae technoleg yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â’r bobl sy’n bwysig i chi.