Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wrth i ni nesáu at ddiwedd diwrnod caled arall yn y felin eiriau, gellir maddau i’r Aelodau am feddwl, wrth i ni gael dadl arall am adael yr UE, fod y pwnc yn ddihysbydd, ond nad ydym ni. Ond rwy’n codi i gynnig ein cynnig fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth; yn croesawu’r rhyddid y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei roi er mwyn llunio polisi penodol ar gyfer amaeth a physgota yng Nghymru; ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio’n agos mewn ffordd gadarnhaol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chynnwys pob plaid yn y Cynulliad yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i elwa ar y buddiannau mwyaf sy’n bosibl i Gymru.
Efallai fod y drafodaeth ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ers misoedd lawer, wedi taflu mwy o wres nag o oleuni. Ymhlith y rhai a oedd yn erbyn i Brydain adael yr UE, mae byd wedi cael ei gonsurio—rywbeth yn debyg i baentiad gan Hieronymus Bosch—o gythreuliaid a diafoliaid ac yn llawn ofn. Rwy’n gobeithio ein bod bellach wedi symud y tu hwnt i hynny. Yn sicr cefais fy nghalonogi gan eiriau’r Prif Weinidog ddoe mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid, lle’r oedd yn amlwg ei fod yn awr wedi dechrau meddwl yn gadarnhaol iawn am y dyfodol i Gymru, a chymeradwyais yr hyn a ddywedodd am gytundeb masnach rydd fel y ffordd ymlaen.
Gwnaeth yr araith a glywsom y prynhawn yma gan Adam Price argraff fawr arnaf hefyd. Rwy’n credu ei fod yn berson eangfrydig a chadarnhaol iawn, ac rwy’n meddwl ei fod wedi cyflwyno nifer o syniadau defnyddiol iawn—mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag arweinydd ei blaid, yn anffodus, sy’n dal i geisio ailgynnal y refferendwm ar y ddadl ar fewnfudo, er gwaethaf y ffaith fod ei hetholaeth ei hun, y Rhondda, wedi pleidleisio hyd yn oed yn fwy niferus dros adael yr Undeb Ewropeaidd na gweddill Cymru.
Mae’r dyfodol yn ddisglair i Gymru, yn fy marn i, yn sgil y cyfleoedd y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu rhoi i ni. Nid yw’n wir dweud y byddai popeth yn sefydlog pe baem wedi aros yn rhan o’r UE, rywsut neu’i gilydd, ac na fyddai gennym broblemau. Wrth gwrs, mae byd busnes yn newid yn gyson. Mae unrhyw un sydd wedi rhedeg busnes erioed, yn enwedig busnes masnachu, yn gwybod bod y byd yn llawn o ansicrwydd: y ffordd rydych yn manteisio arno yw’r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant. Mae’n bwysig i ni, wrth gwrs, ein bod yn cael mynediad di-dariff i’r farchnad sengl, ond nid yw’n rhywbeth y dylem fod yn barod i dalu unrhyw bris i’w gael. Mae yna faterion polisi cyhoeddus pwysig eraill sy’n rhaid eu hystyried hefyd.
Mae’n wir ein bod yn allforio 5 y cant, efallai, o gynnyrch mewnwladol crynswth Prydain i’r UE. Yn amlwg, mae hynny’n bwysig, ond mae’n rhaid i ni gofio, mai ochr arall y ddadl yw nad yw 95 y cant o’n heconomi yn ymwneud ag allforio i’r UE. Felly, dylem gadw’r cwestiynau hyn mewn persbectif. A hyd yn oed o’r rhan honno o’n masnach sy’n allforio i’r UE, byddai 65 y cant ohono’n ddarostyngedig i dariff o lai na 4 y cant pe na baem yn cael cytundeb o gwbl o ganlyniad i adael yr UE gyda’n partneriaid ar draws y sianel. Felly, dim ond 35 y cant o’n hallforion sy’n wirioneddol berthnasol yn y trafodaethau masnach hyn.
Y mwyaf pwysig, wrth gwrs, yw’r diwydiant modurol. Ond yno eto, cyfleoedd sydd gennym yn hytrach na heriau yn fy marn i: rydym yn allforio gwerth £8.5 biliwn o geir i’r UE, ond maent yn allforio gwerth £23 biliwn o geir i ni—h.y. rydym yn mewnforio gwerth hynny o geir ganddynt hwy. Felly, maent yn gwerthu tair gwaith cymaint i ni â’r hyn rydym yn ei werthu iddynt hwy. O’r £23 biliwn rydym yn ei brynu gan weithgynhyrchwyr ceir Ewropeaidd, daw £20 biliwn o’r Almaen yn unig. Felly, mae’r Almaen yn mynd i chwarae rhan enfawr yn y penderfyniadau sydd i’w gwneud ar y berthynas fasnachu yn y dyfodol rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n ymddangos yn gwbl ryfedd i mi i ddychmygu bod gwneuthurwyr ceir yr Almaen am un eiliad yn mynd i oddef tariffau ar fasnach rhyngom oherwydd byddai’r Almaen lawer iawn yn fwy ar eu colled. Hyd yn oed o ran punnoedd y pen neu ewros y pen, y sefyllfa yw mai’r Almaen yw’r enillydd o gymharu â Phrydain.