Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 14 Medi 2016.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddydd Llun, mae’r cwestiwn a ddylem fod yn rhan o’r UE wedi cael ei benderfynu. Rhaid hyrwyddo gadael yr UE yn awr fel cyfle i hybu masnach, diwydiant, cyflogaeth, amaethyddiaeth a physgota, ond ni fydd hyn yn digwydd os nad ydym yn achub ar y cyfle. Rwy’n cynnig gwelliant 1 felly, sy’n cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.
Roedd rhybuddion y Prif Weinidog yn America ynglŷn ag argyfwng cyfansoddiadol sydd ar ddod a risg o niwed economaidd yn enghraifft o sut i beidio â gwerthu Cymru i’r byd. Fe wnaeth ddatgan hefyd bod Cymru yn dal ar agor ar gyfer busnes, ond y neges bendant y dylid ei chyfleu o hyn ymlaen yw y bydd Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn lle gwych i fuddsoddi a gwneud busnes. Ddau fis yn ôl, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd fod gan y DU 10 o gytundebau masnach yn yr arfaeth eisoes ar gyfer y cyfnod ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Oherwydd bod y DU wedi allanoli ei phwerau i drafod telerau masnach i Frwsel ers 43 mlynedd, mae Llywodraeth y DU yn awr yn cryfhau ei thîm ar gyfer trafod telerau masnach a staff arbenigol eraill. Yn uwchgynhadledd y G20 y mis hwn, nododd Prif Weinidog y DU ei huchelgais i weld y DU yn dod yn arweinydd byd mewn masnach rydd fel gwladwriaeth feiddgar, hyderus ac allblyg. Dywedodd arweinwyr India, Mecsico, De Korea a Singapôr y byddent yn croesawu trafodaethau i gael gwared ar y rhwystrau i fasnach rhwng ein gwledydd ac ymwelodd Gweinidog Masnach Awstralia â’r DU yr wythnos diwethaf ar gyfer trafodaethau archwiliadol ar ffurf cytundeb masnach rhwng y DU ac Awstralia. Felly, mae datganiadau gan Brif Weinidog Cymru yn y pwyllgor materion allanol a’r cyfarfod llawn yn gwrthod ymwneud mewn trafodaethau cyn llunio cytundebau masnach ac yn difrïo’r rhai sy’n trafod telerau masnach y DU yn creu risg y bydd Cymru ar ei cholled. Ac roedd tystiolaeth mai naw busnes yn unig y cyfarfu’r Prif Weinidog â hwy yn ystod y pedwar mis rhwng dyddiad galw’r refferendwm a’r diwrnod pleidleisio yn ychwanegu at y pryder nad aeth Llywodraeth Cymru ati i gynllunio’n fanwl ar gyfer y posibilrwydd y byddai pobl yn pleidleisio dros adael yr UE yng Nghymru.
Er bod gan Gymru warged masnach gyda’r UE y llynedd, mae ffigurau allforio y mis hwn yn dangos bod gwerth allforion o Gymru i wledydd yr UE wedi gostwng £586 miliwn, bron 11 y cant, wrth i allforion i wledydd y tu allan i’r UE gynyddu. Mae allforion nwyddau a gwasanaethau’r DU i’r UE wedi gostwng 54 y cant i 44 y cant o’r cyfanswm dros y degawd diwethaf. Yn 2014, roedd cyfran allforion nwyddau y DU a oedd yn mynd i wledydd y tu allan i’r UE yn uwch na phob un o aelod-wladwriaethau eraill yr UE heblaw Malta. Ers 2014, mae allforion o Gymru i’r UE wedi gostwng o 44 y cant i 39 y cant o’r cyfanswm allforion. Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2016, gostyngodd allforion o Gymru i’r UE 6 y cant arall, wrth iddynt gynyddu dros 9 y cant i farchnad Asia-Cefnfor Iwerydd.
Croesawir cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd pob prosiect strwythurol a buddsoddi, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylcheddol, a lofnodir cyn datganiad yr hydref yn cael eu hariannu’n llawn hyd 2020, fel y croesawir taliadau gwarantedig i brifysgolion sy’n cymryd rhan yn Horizon 2020, hyd yn oed lle bydd prosiectau’n parhau y tu hwnt i adael yr UE. Hefyd, cyhoeddodd y Trysorlys y bydd rhagor o fanylion am drefniadau cyllido gwarantedig ar gyfer prosiectau cronfeydd strwythurol a buddsoddi penodol a lofnodir ar ôl datganiad yr hydref yn cael eu darparu cyn datganiad yr hydref. Unwaith eto, mae’r modd y diystyrodd y Prif Weinidog drafodaeth ar hyn ddoe yn creu risg y bydd Cymru ar ei cholled.
Fel y dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar ôl i’r UAC gyfarfod â Gweinidog Gwladol y DU dros Adael yr UE:
mae angen i Lywodraeth Cymru leoleiddio datganiad y Canghellor yng nghyd-destun Cymru.
Fel y dywedodd hefyd:
nid ydym am fodloni ar gopïo unrhyw fodel masnachu arall. Mae’n hanfodol ein bod yn sefydlu model masnachu sy’n addas i amaethyddiaeth y DU a Chymru, a dyma ein cyfle i wneud yn union hynny... mae ein statws TB buchol ar hyn o bryd yn fygythiad sylweddol yn y trafodaethau masnach hynny a bydd yn rhaid datrys hyn ar frys gan Lywodraeth Cymru. Ac fel y dywedodd Llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr:
Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod yn rhaid i ddiogelu cyflenwadau bwyd weithredu fel catalydd ar gyfer uchelgais newydd, beiddgar i ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth y mae NFU Cymru yn benderfynol o fanteisio arno er mwyn sicrhau hyfywedd hirdymor a thwf ein diwydiant.
Felly gadewch i ni ail-ymgysylltu â gweddill y byd a chau’r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gwledydd eraill Ewrop o’r diwedd.