Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 14 Medi 2016.
Beth fyddai eich neges i’r busnes bach llwyddiannus yn fy etholaeth sydd wedi penderfynu gohirio pob buddsoddiad am y tro hyd nes y bydd mater gadael yr UE wedi ei ddatrys? Hyd yn oed os yw popeth yn mynd i fod yn wych ar y diwedd, byddwn wedi colli dwy, tair, pedair neu bum mlynedd o fuddsoddi posibl yn y busnes hwnnw.