7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:44, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Mae ychydig yn frawychus gwrando ar yr anecdot rydym yn ei gael yn lle tystiolaeth a ninnau’n wynebu heriau economaidd mor ddifrifol. Roedd Paul Johnson, pennaeth uchel ei barch y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yn dweud y bydd ein heconomi gryn dipyn yn llai o ganlyniad i adael yr UE. Felly, gadewch i ni siarad am ffeithiau a barn ddifrifol, yn hytrach nag anecdotau.