Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch, Lywydd. Ceisiaf ychwanegu rhywbeth gwahanol i ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers prynhawn ddoe ac mewn dadl yn gynharach yn y Cynulliad. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn oedd gan Neil Hamilton i’w ddweud. Y pwynt cyntaf sy’n rhaid ei bwysleisio yw nad oes neb yn dadlau y dylai tariffau gael eu gosod, ond mae ef yn rhoi ei ffydd yng nghynhyrchwyr ceir yr Almaen. Mae’n rhaid i mi ddweud wrtho nad gyda BMW mae’r trafodaethau; mae’r trafodaethau gyda Chomisiwn yr UE, gyda 27 o aelod-wladwriaethau a Senedd Ewrop. Mae’n rhaid i ni eu hargyhoeddi hwy i gyd i gael cytundeb masnach rydd ac nid BMW, Volkswagen, Audi a Mercedes-Benz yn unig. A byddant yn parhau i werthu i farchnad y DU oherwydd ni fydd y tariff yn effeithio arnynt. Maent yn frandiau sydd â bri arnynt; bydd pobl yn talu £3,000 neu £4,000 ychwanegol am BMW oherwydd eu bod yn gallu fforddio gwneud hynny. Nid yw’n effeithio arnynt hwy gymaint ag y mae’n effeithio ar Ford.
Mae 50 y cant o’r allforion y mae’r DU yn eu hanfon allan bob blwyddyn yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd—50 y cant. Yr Undeb yw ein partner masnachu mwyaf o lawer. Mae unrhyw beth sy’n amharu ar ein mynediad i’r farchnad fel y cyfryw yn ddrwg i’r DU. Nawr, pan oeddwn yn yr Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf, y cyfan roeddent yn awyddus i siarad amdano oedd beth oedd yn mynd i ddigwydd i’r DU. Nid ydynt yn gweld y DU yn ddigon mawr i fuddsoddi ynddi ohoni ei hun. Mae 440 miliwn o bobl yn byw yn yr UE. Mae India, Tsieina a Rwsia yn llawer iawn mwy na’r DU. Mae’n rhaid i ni symud oddi wrth y syniad hwn, rywsut, fod ar y byd fywoliaeth i’r DU a bod y DU rywsut yn bwysig iawn. I fod yn bwysig iawn, mae angen i chi gael llawer o bobl neu lawer o olew, yna byddant yn gwrando arnoch. Mae’n bwysig cael ffrindiau yng ngweddill Ewrop a ledled y byd i wneud yn siŵr eich bod yn gallu masnachu â hwy. Roedd yr Undeb Ewropeaidd yn ein galluogi i wneud hynny, ond mae pobl Cymru wedi siarad.
Ac o ran y pethau eraill y soniodd amdanynt, bwyd a diod—ni fyddwn byth yn gallu diogelu’r cyflenwad bwyd. Mae’n amhosibl i’r DU beidio â mewnforio bwyd. Nid oes gennym yr hinsawdd i fwydo ein hunain mewn gwirionedd. Byddai’r rhyfel wedi dysgu hynny i bobl, yn sicr. Ac felly, os gosodir tariffau ar fwyd, bydd yn rhaid i bobl ddal i brynu’r bwyd, ond byddant yn talu’r tariffau ar ben hynny. Os edrychwch ar y ffrwythau a’r llysiau sy’n dod i mewn i’r DU, daw llawer ohonynt o’r Undeb Ewropeaidd. Os caiff tariffau eu rhoi ar ben hynny, nid oes cynhyrchwyr yn y DU sy’n gallu cymryd eu lle; ni allwch gael tomatos yn lle’r rhai sy’n cael eu mewnforio gydol y flwyddyn, oherwydd ni all y DU wneud hynny. Felly, yn y pen draw, nid yw’n bosib dweud fod hyn oll yn ymwneud â diogelu’r cyflenwad bwyd, gan mai myth yw diogelwch y cyflenwad bwyd mewn perthynas â’r DU a bydd hynny bob amser yn wir. Dyma ble rydym yn y byd ac mae’n ymwneud â’n lledred a’n hinsawdd.
Nawr, roedd un mater yn arbennig yn fy mhoeni, ond rwy’n amau bod hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei weld dros yr ychydig fisoedd nesaf gan rai o’r bobl fwyaf penderfynol o adael yr UE, sef sut rydym yn delio â’r holl reoliadau felltith hyn: chwynladdwyr, plaladdwyr, hawliau cyflogaeth—yr holl bethau hyn sydd wedi mynd yn y ffordd i atal y DU rhag bod yn gystadleuol. Fe sonioch am yr amgylchedd. Roedd gan y DU record warthus ar yr amgylchedd yn y 1980au. Roeddem yn llygrwyr mawr; roeddem yn achosi glaw asid dros Ewrop. Roedd rhai o’n hafonydd yn fflamadwy pe baech yn taflu matsis i mewn iddynt, ac roedd yn rhaid i weddill Ewrop lusgo’r DU i mewn i bolisi amgylcheddol gwell. Ni fyddem fel Llywodraeth yn caniatáu i’n safonau amgylcheddol lithro mewn unrhyw amgylchiadau. Mae ein pobl yn haeddu gwell na hynny.
Mae’n sôn am y £10 biliwn sy’n mynd i ddod. Nid oes neb yn credu hynny mwyach. Nid oes neb yn defnyddio’r ffigur hwnnw mwyach, y myth o £10 biliwn. Rwy’n edrych ymlaen at weld y £620 miliwn y byddai gennym hawl iddo yn dod yn syth i Gymru, yn ddigwestiwn. Nid wyf yn credu y bydd hynny’n digwydd.
Soniodd am gyllideb 1981—y gyllideb fwyaf trychinebus a gynhyrchwyd erioed gan unrhyw Lywodraeth erioed yn Ewrop ers diwedd yr ail ryfel byd, cyllideb a greodd chwyddiant o 22 y cant, 3.2 miliwn o bobl yn ddi-waith. Roedd y gyllideb honno yn un o’r rhesymau pam fod pobl wedi teimlo’n ddigon blin i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, am fod pobl yn gweld gweithgynhyrchu yn cael ei ddinistrio yn y DU, yn gweld Llywodraeth Geidwadol nad oedd yn poeni am weithgynhyrchu—a gwelwn adleisiau o hynny gan rai economegwyr sy’n dweud bod diwydiannau gwasanaeth yn bwysicach na dim byd arall. Mae’n rhaid i mi ddweud bod Llundain yn ganolfan ariannol yn wir o ran cyllid byd-eang, ond os na all gwasanaethau ariannol yn Llundain weithredu yn yr Undeb Ewropeaidd, ni fydd yn ganolfan am lawer iawn eto. Bydd pobl y Swistir yn dweud wrthych nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau ariannol yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny’n golygu, wrth gwrs, nad ydynt yn gallu gweithredu yno.
Nawr, mae’n rhaid i ni gydnabod y problemau hyn er mwyn cyrraedd sefyllfa well. Nid yw’r byd mor syml ag y byddai rhai siaradwyr yn hoffi ei ddweud. Dywedodd Caroline Jones—efallai fy mod yn gwneud cam â hi—’Gadewch i ni adael fwy neu lai ar unwaith’. Beth sy’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon? Beth sy’n digwydd gyda’r Weriniaeth? Y cwestiwn mawr sydd heb ei ateb yw beth sy’n digwydd i’r ffin honno. Roedd pobl yn dweud wrthyf ar garreg y drws, ‘Rydym eisiau rheolaeth dros ein ffiniau’. Nid yw hynny byth yn mynd i ddigwydd, gan nad yw’r DU yn rheoli’r ffin â Gweriniaeth Iwerddon. Dechreuwch roi mannau archwilio ar y ffin yn ôl yno, neu swyddogion diogelwch, a byddwch yn torri cytundeb Gwener y Groglith. Un canlyniad sydd i hynny, ac mae’n un difrifol.
Rhaid i’r pethau hyn gael eu trin yn ofalus. Nid yw Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd hyd yn oed am weld ffin galed yn ôl yn Iwerddon. Os gwnewch y pethau hyn heb feddwl yn ofalus am y canlyniadau—ac mae’r canlyniadau’n ddifrifol tu hwnt i bobl Gogledd Iwerddon, y Weriniaeth ac yn wir i weddill y DU. Felly, rhaid ystyried y pethau hyn yn eithriadol o ofalus.
O ran yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood, mae llawer o’r hyn a ddywedodd yn cyd-fynd â ble mae’n eistedd yn y Siambr, buaswn yn awgrymu, o ran yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond unwaith eto, mae’n rhaid iddo ddeall—hynny yw, roedd rhai o’r pethau a ddywedodd yn naïf a bod yn onest. Yr hyn y mae’r Trysorlys wedi ei ddweud—gadewch i ni fod yn onest—yw y bydd prosiect yn cael cyllid os caiff ei lofnodi cyn datganiad yr hydref. Mae hynny’n wir. Ar ôl hynny, nid ydynt yn rhoi unrhyw sicrwydd o gwbl. Dim byd. Mae’r cyfan ar sail achosion unigol a ‘Ni fydd yn penderfynu pa un a ydych yn cael arian ai peidio’. Mae’n golygu y bydd arian a fyddai wedi dod i Gymru bellach yn wynebu rhwystr yn Llundain yn hytrach na bod yr arian yn llifo’n uniongyrchol i ni. Dyna beth y maent wedi ei ddweud. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.