9. 9. Dadl Fer: A Fydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn Ddigonol i Fynd i'r Afael â Landlordiaid Diegwyddor?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 6:24, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Jenny, am eich cyfraniad heno. Croesawaf y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y dull o foderneiddio’r sector rhentu preifat, sydd wedi chwarae rhan gynyddol bwysig yn y broses o ddiwallu anghenion tai pobl.

Fel y dywed Jenny, mae sawl math o landlord diegwyddor. Gall landlord diegwyddor fod yn rhywun sy’n methu â chydymffurfio â’r gyfraith drwy anwybodaeth, rhywun sy’n gosod eiddo yn gyfreithiol ond heb roi sylw i’w gyflwr ac o bosibl y peryglon y gallai eu hachosi i’w denantiaid, neu rywun, yn wir, sy’n anwybyddu’r gyfraith ac yn defnyddio bwlio ac ymddygiad bygythiol i gael yr hyn y maent ei eisiau. Mae llawer o landlordiaid da yn y sector rhentu preifat, ond mae eu henw da wedi cael ei niweidio gan yr elfen ddiegwyddor y mae’r Aelod yn cyfeirio ati. Rwy’n falch o ddweud y bydd y mesurau rydym wedi’u cyflwyno o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn helpu i fynd i’r afael â’r holl fathau hyn o landlordiaid a grybwyllwyd.

Bydd Rhentu Doeth Cymru, am y tro cyntaf, yn sicrhau bod yna gofnod cynhwysfawr o ba eiddo sy’n cael ei osod yn y sector rhentu preifat a phwy a drwyddedwyd i’w reoli. Bydd yn drosedd i berson heb drwydded reoli neu osod eiddo.

Mae’r flwyddyn gyntaf wedi bod yn ysgafn yn fwriadol, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o ofynion y ddeddfwriaeth newydd. Erbyn diwedd Awst 2016, roedd tua 20,000 o landlordiaid preifat eisoes wedi cofrestru, gyda thua 34,000 o landlordiaid ac asiantau wedi agor cyfrifon, sef y cam cyntaf yn y broses gofrestru a thrwyddedu. Mae’n rhaid i unrhyw landlord neu asiant sy’n dymuno gosod neu reoli eiddo basio’r prawf person addas a phriodol hefyd. Os na ellir ystyried person yn addas a phriodol ni fydd yn cael trwydded. Heb drwydded mae’n anghyfreithlon i reoli neu osod eiddo. Mae mor syml â hynny.

Bydd yr holl landlordiaid, asiantau a gweithwyr sy’n ymwneud â gosod a rheoli tai yn dilyn cwrs hyfforddi, a fydd yn eu hatgoffa o’u rhwymedigaethau ac yn eu cyfeirio at yr adnoddau cymorth. O’r bobl sydd wedi dilyn y cwrs, mae 96 y cant o’r rhai a gwblhaodd yr hyfforddiant gofynnol yn dweud ei fod wedi eu gwneud yn landlordiaid gwell. Mae hyn yn golygu y bydd Rhentu Doeth Cymru nid yn unig yn mynd i’r afael â landlordiaid diegwyddor, ond hefyd mae’n helpu i wneud pob landlord yn landlord gwell. Bydd bod yn rhan o’r cynllun yn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfreithiau sy’n berthnasol i osod eiddo ar rent.

Pan fydd landlord neu asiant wedi cael eu trwydded, un amod gorfodol yw cydymffurfio â’r cod ymarfer; mae’r cod yn amlinellu nifer o’r dyletswyddau statudol y mae’n ofynnol i landlordiaid neu asiantau eu cyflawni. Os byddant yn methu cydymffurfio, bydd eu trwydded mewn perygl. Bydd unrhyw landlord neu asiant nad yw wedi cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth erbyn 23 Tachwedd mewn perygl o dorri’r gyfraith a chael eu categoreiddio fel landlord diegwyddor. Rydym felly yn cryfhau ein dull o weithredu ar ddiffyg cydymffurfiaeth. Yn naturiol, ni fydd gan rywun sy’n amlwg ar fin gweithredu i gydymffurfio ddim i’w ofni. Fodd bynnag, bydd landlordiaid nad ydynt yn cydymffurfio, neu’n methu cydymffurfio, yn destun camau gorfodi.

Lansiwyd ail gam ein hymgyrch gyhoeddusrwydd yn gynharach yr haf hwn, ac rydym yn awr yn ehangu cyfathrebu a gweithgareddau gyda’n partneriaid. Rwy’n falch fod yr Aelod wedi ei weld ar gefn bws wrth feicio i mewn heddiw. Mae’n amlwg yn gweithio.

Ym mis Tachwedd eleni byddaf yn gweithredu’r rheoliadau gorfodi, sy’n golygu ffocws cynyddol ar gydymffurfiaeth, a ffocws cryfach byth ar gamau i fynd i’r afael â landlordiaid diegwyddor. Bydd unrhyw landlord neu asiant sy’n torri’r gyfraith yn agored i hysbysiad cosb benodedig neu ddirwy. Os ydynt yn parhau i wrthod cydymffurfio, gallent wynebu gorchymyn ad-dalu rhent a/neu orchymyn atal rhent yn wir. Hefyd, gallent golli’r hawl i droi tenant allan drwy rybudd adran 21. Byddaf yn cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth cyn hir i wneud i hynny ddigwydd.

Rydym yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod adnoddau ar gael i orfodi’r ddeddfwriaeth yn llawn, ac rwy’n talu teyrnged heddiw i’r gwaith a wnaed gan ein holl awdurdodau lleol, ond nid yw ein gweithgarwch yn dod i ben yn y fan honno. Mae troi allan dialgar yn enghraifft o ymddygiad diegwyddor gan rai landlordiaid, ac rwy’n falch o ddweud bod hyn hefyd yn cael sylw o dan fesurau a roddwyd ar waith ac sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 os yw landlord yn ceisio meddiant drwy’r llys. Yn dilyn cwyn ynglŷn â diffyg atgyweirio gan ddeiliad contract, gall llys wrthod caniatáu’r gorchymyn adennill meddiant os yw’n ystyried ei fod yn ddialgar ei natur.

Darperir hawliau i ddeiliaid contractau o fewn y contract na all landlord eu dileu na’u newid. Bydd hyn yn ei gwneud yn llawer haws i ddeiliaid contractau wneud landlordiaid yn atebol os na fyddant yn glynu at eu rhwymedigaethau yn y contract. Rwy’n cydnabod yn llwyr y mater a grybwyllodd Jenny ynglŷn â chysylltu. Weithiau, nid yw cyfeiriad e-bost nad yw’n cael ei ddefnyddio neu rif ffôn ffug yn ddefnyddiol o gwbl yng nghanol y nos pan fydd y nenfwd yn disgyn drwodd, ac mae hyn yn rhan o’r broses gofrestru.

Ei phwyntiau olaf: nodaf yr awgrym y dylai Cymru ddilyn yr Alban eto mewn perthynas â gwahardd asiantau rhag codi ffioedd ar denantiaid. Rwy’n dal i gael fy mherswadio ynglŷn â’r ddadl hon, nid am nad wyf yn cytuno â bwriad yr Aelod, ond rwy’n poeni ynglŷn â’r risg ddifrifol sydd ynghlwm wrth y broses o drosglwyddo—. Yn syml iawn, bydd yr asiantau’n trosglwyddo’r ffioedd i landlordiaid a bydd hynny’n cynyddu rhent yr unigolion y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt. Felly, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar asiantau ar hyn o bryd i gyhoeddi eu ffioedd ac wynebu dirwy o £5,000 a cholli eu trwydded o bosibl os ydynt yn methu gwneud hynny. Ond yr hyn a wnaf, ac rwy’n ddiolchgar am y pwyntiau a grybwyllodd yr Aelod heddiw—. Ac ynglŷn â gallu Cymru i ddeddfu ar hynny, byddaf yn gofyn am gyngor cyfreithiol pellach ac efallai y byddai’r Aelod yn hoffi rhannu ei chyngor cyfreithiol gyda mi. Ond yn sicr, byddaf yn edrych ar hynny eto, a byddaf yn edrych ar y risg ganfyddedig i denantiaid yn y weithdrefn hon os yw’r ffi’n trosglwyddo, oherwydd ni fyddwn am weld y ffioedd—ffioedd afresymol mewn rhai achosion—yn cael eu trosglwyddo i’r tenant. Byddai hynny’n gamenwi o ran y ffordd rydym yn gweithredu.

Hoffwn ddysgu o’r dystiolaeth, o’r profiad, yn yr Alban cyn penderfynu a yw’r mesurau hyn yn angenrheidiol, ond rwy’n ddiolchgar, unwaith eto, i’r Aelod am dynnu ein sylw yma heddiw at fater mor bwysig, a byddaf yn trafod hyn gyda fy nhîm, a gobeithio y gallaf drafod ymhellach gyda’r Aelod a gyflwynodd y ddadl fer hon heddiw.