Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Part of QNR – Senedd Cymru ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

Ar 28 Gorffennaf, cyflwynais ddatganiad ysgrifenedig ar gyhoeddi cynllun gweithredu fframwaith Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid 2016-17. Mae’r cynllun yn cynnwys blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf, a chamau gweithredu. Cytunwyd ar y rhain mewn partneriaeth â grŵp fframwaith Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid.