<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:40, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cafodd Gweinidog Brexit Llywodraeth yr Alban gyfarfod gydag Ysgrifennydd Cabinet y DU dros adael yr UE yr wythnos diwethaf i drafod pa ran y gallai gweinyddiaeth Caeredin ei chwarae yn safbwynt trafod y DU. Bythefnos yn ôl yn Chicago, dywedasoch na all Cymru fforddio bod—a dyma eich geiriau— yn arsylwyr goddefol yn y penderfyniad hynod bwysig hwn.

A wnewch chi, felly, ailystyried nawr eich penderfyniad i beidio â phenodi Gweinidog Brexit penodedig, neu a ydych chi’n barod i wneud Cymru yn amherthnasol?