<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Wel dyna yn union, wrth gwrs, y mae llawer yn Llywodraeth y DU yn ei gredu. I mi, mae mynediad at y farchnad sengl o ran nwyddau a gwasanaethau yn llinell goch. Mae hynny'n rhywbeth na ellir ei negodi i ffwrdd. Rwyf wedi gwneud yr awgrym i gael moratoriwm saith mlynedd; credaf fod hynny’n cynnig posibilrwydd cyn belled ag y mae’r DU yn y cwestiwn—rwy’n ceisio bod o gymorth cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn yn y fan yma—er mwyn cynnal mynediad at y farchnad sengl. Ond, na, i mi, mynediad at nwyddau a gwasanaethau yw’r llinell goch.