Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 20 Medi 2016.
Wel, mae dau beth y mae’n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd UKIP: yn gyntaf, mae'n ymddangos mai polisi ei blaid ef yw trin pobl sy'n ffoaduriaid o ryfel fel ymfudwyr economaidd. Rydym ni wedi clywed hynny gan Aelod o'i feinciau cefn ei hun. Yn ail, gallaf ei sicrhau—[Torri ar draws.] Gallaf ei sicrhau mai’r blaid yr oedd ef yn aelod ohoni ar un adeg yn yr 1980au yw'r blaid sy'n cael ei chasáu fwyaf gan etholwyr Cymru. Maen nhw’n cofio yr hyn a wnaeth ef, a'i blaid, ar ôl y gyllideb honno ym 1981 yr oedd ef mor falch ohoni. Maen nhw’n cofio’r hyn a wnaeth, wrth gefnogi streic y glowyr yn erbyn ein pobl ein hunain—cau ein diwydiant mwyngloddio i lawr, cau ein diwydiant dur i lawr. Os mai dyna bolisi UKIP, ewch allan ar bob cyfrif i’w werthu i bobl Cymru.