Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 20 Medi 2016.
Na wnaf, nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Bydd pobl yn ceisio mynd i'r lle cyntaf y gallant ei gyrraedd fel man diogel. O’m safbwynt i, mae'n bwysig—. Mae ef yn ddisgynnydd i fewnfudwr. Mae ei holl Aelodau yn ddisgynyddion mewnfudwyr. Cwestiwn o bryd ddaeth eu teuluoedd i’r ynys hon yw hyn. Mae pob un ohonom ni yn yr ystafell hon yn ddisgynnydd i fewnfudwr. Mae'r cyfan yn dibynnu ar bryd y daeth ein teuluoedd yma mewn gwirionedd ac, o’m safbwynt i, mae'n gwbl gywir, pan fo pobl yn ffoi rhag rhyfel a gormes, eu bod yn cael cyfle mewn gwlad wâr—mewn gwlad wâr—i gael byw eu bywydau mewn heddwch, ac mae hynny'n rhywbeth na wnaf i fyth gyfaddawdu yn ei gylch.