Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 20 Medi 2016.
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus gan ein bod yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y maen nhw’n ei wneud i les pobl yng Nghymru. Ers 2007, rydym ni wedi buddsoddi oddeutu £14 miliwn i foderneiddio dros 100 o lyfrgelloedd cymunedol, gan gynnwys £1 filiwn i foderneiddio a chyd-leoli chwe llyfrgell yn ystod y flwyddyn ariannol hon.