Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 20 Medi 2016.
Brif Weinidog, er ein bod yn croesawu eich ailgadarnhâd o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau llyfrgelloedd, nid yw eich cefnogaeth yn fawr o gysur i'r cymunedau hynny y caewyd eu llyfrgelloedd o ganlyniad i doriadau llywodraeth leol. Rydym ni wedi gweld llawer o lyfrgelloedd yn cau eu drysau am byth, tra bod eraill yn ddyledus i dîm bychan o wirfoddolwyr ymroddedig am eu bodolaeth. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan bob cymuned yng Nghymru fynediad at lyfrgell leol dda?