<p>Gwasanaethau Bws o Aberystwyth i Gaerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:06, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'r cynllun gweithredu pum pwynt ar wasanaethau bws lleol a gyhoeddwyd gan eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yr wythnos diwethaf i’w groesawu’n fawr iawn. Mae grantiau cymorth i wasanaeth bws wedi cael eu torri eisoes. A allwch chi sicrhau y bydd lefel presennol y cyllid ar gyfer gwasanaethau bws lleol, fel yr amlinellwyd yr wythnos diwethaf, ac unrhyw—. Mae'n ddrwg gennyf. A allwch chi sicrhau’r lefel presennol o gyllid ar gyfer gwasanaethau bws lleol ac amlinellu’n union pa gyllid ychwanegol fydd ar gael i gyflawni cynllun pum pwynt Llywodraeth Cymru?