Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 20 Medi 2016.
Gwnaf. Rydym ni wedi gweld cynnydd gwirioneddol dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym ni’n gweld tuedd ostyngol o ran achosion TB newydd. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yr hysbyswyd am 740 o ddigwyddiadau buchesi newydd yng Nghymru, o'i gymharu ag 884 y flwyddyn cynt. Mae hynny’n ostyngiad o 16 y cant.