Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 20 Medi 2016.
Mater i'r Gweinidog fyddai gwneud y datganiad hwnnw, a bydd hi’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i'r Cynulliad. Ond, fel y dywedais, mae nifer y methiannau wedi gostwng. Cynhelir mwy o brofion. Rydym ni’n gwybod nad oes unrhyw anawsterau o ran masnach ryngwladol, cyn belled ag y mae TB buchol yn y cwestiwn. Yn wir, mae'r rhaglen ddileu, y mae Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol amdani ar y cyd, wedi cael £31 miliwn o arian Ewropeaidd. Dyna ni; gadewch i ni weld a fydd hynny'n parhau yn y dyfodol. Felly, nid oes unrhyw anhawster o ran yr ymagwedd yr ydym ni wedi ei chymryd. Nid oes unrhyw wlad, na’r Undeb Ewropeaidd yn wir, erioed wedi dweud eu bod yn cael anhawster â'r ymagwedd a gymerwyd i leihau achosion o TB yng Nghymru.