<p>TB Buchol yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 20 Medi 2016

Un o’r pethau rwy’n ei wybod am Loegr—rwy’n cofio yn ystod y treialon Krebs, gydag un o’r treialon fe aeth pethau’n waeth, o achos y ffaith eu bod nhw’n difa moch daear o’r canol mas. Wrth gwrs, beth oedd yn digwydd oedd bod y moch daear yn symud mas, a wedyn roedd y clwy yn lledu o achos hynny. Rwy’n gwybod bod yna dueddiad gyda rhai i feddwl bod yna ateb rhwydd i TB—os rŷch chi’n cael gwared ar moch daear felly nid oes dim problem gyda chi. Mae hi’n fwy cymhleth na hynny. Rwy’n cofio eistedd ar y pwyllgor a chlywed y dystiolaeth, a oedd yn dangos ei bod hi’n llawer mwy cymhleth a bod dim un ateb. Ond, wrth ddweud hynny, rydym wedi gweld lleihad, sydd i’w groesawu, wrth gwrs, yn nifer yr anifeiliaid sydd wedi cael eu profi gyda TB, ac mae hynny’n rhywbeth rydym ni’n moyn gweld yn parhau yn y pen draw.