Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch. Rwyf wedi cwrdd â’r cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus dros fwrdd iechyd Hywel Dda yn ddiweddar. Mae hi wedi cadarnhau bod arolwg diweddar wedi dangos bod 28 y cant o blant hyd at bedair oed dros bwysau; 28 y cant—mae hwnnw’n ffigur anhygoel. Mae adroddiad arall yn ddiweddar wedi dangos bod tri chwarter o blant ym Mhrydain yn cael llai o amser y tu fas yn yr awyr iach na phobl yn ein carchardai. A ydych yn cytuno y byddai’n werth chweil cyflwyno mecanwaith i fonitro pwysau plant wrth iddyn nhw fynd drwy’r ysgol, a hefyd i fonitro eu gweithgaredd corfforol, fel yr awgrymodd Tanni Grey-Thompson yr wythnos diwethaf?