<p>Llwybrau Beicio a Rennir</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:20, 20 Medi 2016

Diolch am yr ateb hynny. Efallai y byddai o ddiddordeb i’r Prif Weinidog wybod, pan oeddwn i allan yn rhedeg yng Nghastell-nedd yn weddol ddiweddar, gwnes i bron â chael fy ngwthio i mewn i’r gamlas gan feic a oedd yn mynd yn rhy glou ar hyd yr un trac ag yr oeddwn i’n rhedeg arno, ac felly, y cwestiwn yw: gan fod yna rannu rhwng beicio a phobl sy’n cerdded, rwyf wedi cael pobl yn ardal y Mwmbwls, sy’n mynd yno’n aml, lle mae yna feicwyr nad ydyn nhw’n cymryd i mewn i ystyriaeth y bobl hynny sydd yn cerdded—rwyt ti’n gwybod, mae yna lot o bobl yno ddydd Sul, er enghraifft—. Sut maen nhw wedyn yn gallu bod yn sensitif i’r hyn sydd yn digwydd yna o’u cwmpas nhw, yn hytrach na cheisio mynd mor glou ag y bydden nhw yn mynd ar ben mynydd, hynny yw? Beth ydych chi’n gallu ei wneud o ran addysg i sicrhau bod pawb yn gallu byw yn yr un fath o amgylchfyd?