Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau hynny. Dim ond i bwysleisio unwaith eto y pwysigrwydd allweddol yr ydym yn ei weld o ran rhoi ystyriaeth i seilwaith pan ydym yn sôn am adeiladu cysylltiadau trafnidiaeth a’r dinasyddion a fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol. Yn sicr mae’n rhaid iddynt gynnwys cerdded a beicio.
Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud am y cyfleusterau parcio nad ydynt yn ganolog. Rwy'n credu bod hynny'n wych, oherwydd fel y dywedodd un o'r siaradwyr blaenorol, mae’n rhaid i rai pobl yrru milltiroedd lawer i’r gwaith, ond daw cyfle ar ddiwedd y daith, am ryw 10 neu 15 munud, i glirio’ch pen cyn wynebu diwrnod caled yn y gwaith, ac yn y blaen.
Rwy'n awyddus iawn i wrando ar unrhyw syniadau arloesol, o ble bynnag y maen nhw’n dod, o fewn y Siambr hon neu gan y cyrff sy’n cefnogi ein gwaith. Mae'n rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i'r sefydliadau gwirfoddol ac i eraill sydd wedi bod yn gweithio mor agos ac yn cynnig cymorth ac arbenigedd mor wych dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf.