– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 20 Medi 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, eitem 7—cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig y cynnig—Ken Skates.
Cynnig NDM6090 Ken Skates
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn o ran Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu am ei waith craffu ar y memorandwm a hefyd am nodi ei fod yn fodlon ag ef. Cymeradwyaf y cynnig i'r Siambr.
Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl hon, felly nid oes rhaid i chi ymateb i hynny.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Mae hynny'n dda. Caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyna ddiwedd busnes heddiw. Diolch.