<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:43, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Mae’r ffordd rwy’n bwriadu mynd ati i ddatblygu’r dreth gyngor yn rhannu’n ddau gyfnod gwahanol. Rwy’n credu bod rhai camau gweithredu uniongyrchol y gallwn eu cymryd i wella gweithrediad y cynllun sydd gennym ar hyn o bryd ac i’w wneud yn decach i unigolion. Ond rwyf am i ni feddwl yn ehangach na hynny. Rwy’n credu bod yna nifer o ffyrdd y gellid diwygio trethi lleol. Cafwyd cyfres o adroddiadau sy’n ailadrodd manteision ac anfanteision y modelau hynny ar lefel ddamcaniaethol. Rwy’n bwriadu dechrau gwaith yma yng Nghymru a fydd yn edrych yn fanwl ar sut y gallai’r gwahanol fecanweithiau hynny weithio yn y cyd-destun Cymreig. Wedyn, byddwn yn gallu cael trafodaeth gymhwysol, fwy gwybodus i weld a oes unrhyw un o’r modelau hynny yn cynnig ffordd well ymlaen i ni gyda golwg ar y dreth gyngor.