Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch. Mae eich rhaglen lywodraethu hefyd yn nodi addewid i ddarparu cyllid gwaelodol ar gyfer cyllido llywodraeth leol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sôn am gynghorau gwledig nac ystyriaeth ohonynt, a thros dymhorau blaenorol, pwysolwyd yn eu herbyn yn gyson mewn perthynas â’r setliad llywodraeth leol. A wnewch chi ymrwymo i gynnal adolygiad ar unwaith o’r fformiwla ariannu er mwyn sicrhau bod y setliad llywodraeth leol hefyd yn ystyried ac yn cydnabod yr heriau unigryw sy’n wynebu ein cynghorau gwledig?