Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Gan fod hwn yn banel cynghori a grëwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun, rwy’n cymryd y bydd y panel, yn ei gyfarfod cyntaf, yn cael papurau sefyllfa gan Lywodraeth Cymru ar elfennau o’r ymadawiad â’r UE a barn Llywodraeth Cymru ar nifer o’r materion sy’n gysylltiedig â’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd. A yw’n gallu cadarnhau bod hynny’n wir, ac a fyddai’n barod i amlinellu cynnwys rhai o bapurau sefyllfa Llywodraeth Cymru ar adael yr UE?