Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 21 Medi 2016.
Buaswn i’n licio defnyddio fel enghraifft un strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru, sef y nod o gael miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Mewn ymateb ysgrifenedig i gwestiwn ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ynglŷn â chyfraniad awdurdodau lleol i dargedau cenedlaethol ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, yr ateb a gefais oedd nad oedd rhaid i awdurdodau lleol ddilyn unrhyw dargedau, ac rydych chi newydd ategu hynny. Ond, mae hynny’n syndod i mi, oherwydd mae addysg yn elfen allweddol er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr, ac mi fydd yn rhaid i awdurdodau addysg lleol gynllunio cynnydd sylweddol mewn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg os oes gan y Llywodraeth unrhyw obaith o gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr.
Mi gafwyd ffigurau diddorol iawn yn adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn yma. Allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yr awdurdodau sydd yn perfformio gwaethaf o ran y nifer o ysgolion yn yr awdurdod sydd yn cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog ydy’r rhai sydd yn cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur. Yng Nghaerdydd—