<p>Dinas-ranbarth Bae Abertawe</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:07, 21 Medi 2016

Diolch yn fawr i’r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bargen ddinesig lwyddiannus i ranbarth bae Abertawe. Mater i’r rhanbarth ei hun fydd llunio cynnig buddsoddi cymhellgar i fynd ar drywydd cyllid ar gyfer y fargen ddinesig. Mae rhanddeiliaid lleol yn dal i gael cymorth gan fy swyddogion i a swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda’r dasg honno.